Awyr Dywyll Powys

Darganfod byw ym Mhowys, trysor cudd yng nghanol Cymru!

Mae Eryri a’r Bannau Brycheiniog wedi ennill statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, ac wedi’i leoli yng nghanol Powys yw’r unig Barc Awyr Dywyll yng Nghymru.

Yr Awyr Dywyll Gymreig ⎸ Profiad Bythgofiadwy

Man byd-enwog i syllu ar y sêr yma ym Mhowys

Mae seryddiaeth a syllu ar sêr yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn y DU, ond yn aml mae’n anodd dod o hyd i’r lleoliad cywir. Efallai eich bod wedi ceisio syllu ar y sêr yn eich ardal leol, ond mae gormod o lygredd golau? Powys yw’r lle i fod!

Gan gwmpasu llawer o’r canolbarth, mae natur wledig Powys yn ei gwneud hi’n berffaith ar gyfer gweld y sêr. Mae Powys yn gartref i ddwy ardal Awyr Dywyll a gydnabyddir yn rhyngwladol – mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chwm Elan wedi derbyn statws arbennig gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol. Rhwng y ddwy ardal mae rhai o’r mannau gorau i syllu ar sêr yn y DU.

Rydym hefyd yn gartref i Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol Gwrthrychau Ger y Ddaear.

Mae Powys hefyd yn gartref i Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol Gwrthrychau Ger y Ddaear neu ‘Spaceguard’ – prif ffynhonnell wybodaeth y DU yn ymwneud â gwrthrychau ger y Ddaear. Mae’n arsyllfa weithredol sydd wedi’i lleoli mewn ardal awyr dywyll ym Mhowys, ac mae ar agor i’r teulu cyfan.

Os ydych chi’n hoff iawn o bob peth y gofod, neu hyd yn oed yn mwynhau ffilm asteroid neu ddwy, yna mae’n sicr werth ymweld â Spaceguard!

Dewch chi â'ch hunain a bydd Powys yn cynnig y profiadau bythgofiadwy

Ni waeth a ydych chi’n penderfynu ymweld â Phowys am noson o syllu ar y sêr neu gymryd y naid i ymuno â’r timau ymarfer sy’n byw ac yn gweithio ym Mhowys – bydd Powys yn cynnig profiad bythgofiadwy.

Dilynwch y botwm isod i ddarganfod mwy am yr hyn sydd gan Bowys i’w gynnig i chi yn eich gyrfa a’ch ffordd o fyw ↓