Datganiad Preifatrwydd

Pwrpas

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r holl wybodaeth sy’n cael ei chasglu neu ei chyhoeddi ar wefan Ymarfer ym Mhowys. Mae’n nodi pa wybodaeth rydym yn casglu a’r rheswm pam. Fel y disgrifir yn narpariaethau Deddf Diogelu Data 1998, rydym yn cymryd camau priodol i ddiogelu eich data ar ein gwefan. Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn llywodraethu’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu ac mae defnyddio’r wefan hon yn golygu eich bod chi’n cytuno ag ef.

Gwybodaeth Rydyn Ni’n Ei Chasglu

Gwybodaeth bersonol

Dydyn ni ddim yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y safle. Pan fyddwch chi’n darparu data sy’n datgelu pwy ydych chi ar y wefan hon yn wirfoddol, ni fydd yr wybodaeth hon ond yn cael ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac er mwyn defnyddio’r wybodaeth honno at y diben arfaethedig. Dydyn ni ddim yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr y wefan gyda thrydydd partïon.

Olrhain Defnyddwyr

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr i wella’r cynnwys a ddarperir ar y wefan. Mae Google Analytics (GA) yn wasanaeth rhad ac am ddim a ddarperir gan Google sy’n cynhyrchu ystadegau manwl am yr ymwelwyr â’r wefan.

Ymhlith yr wybodaeth sy’n cael ei chasglu mae tudalennau sy’n cyfeirio / tudalennau gadael, patrymau clicio, tudalennau mwyaf / lleiaf poblogaidd, hyd sesiynau, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Mae gwybodaeth yn cael ei chasglu trwy ddefnyddio cwcis.

Sut Rydyn Ni’n Casglu Gwybodaeth

Google Analytics

Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi gwe a ddarperir gan Google Inc. (“Google”). Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript er mwyn helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Bydd yr wybodaeth sy’n cael ei chreu am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau ac yn cael ei storio ar y gweinyddion hynny.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio adroddiadau o weithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Mae’n bosib hefyd y bydd Google yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon pan fydd hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Fydd Google ddim yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall oedd yn cael ei gadw o’r blaen. Gallwch wrthod defnyddio cwcis. Sylwch os bydd cwcis wedi cael eu hanalluogi, mae’n bosib na fydd popeth ar y wefan hon yn gweithio. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cydsynio i Google brosesu data amdanoch chi yn y modd ac at y dibenion sydd wedi eu nodi uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Llawn Google a’r Telerau Gwasanaeth am wybodaeth fanwl.

Beth yw Cwcis?

Ffeiliau bach yw cwcis y mae gwefannau’n eu rhoi ar ddisg galed eich cyfrifiadur pan fyddwch chi’n ymweld â nhw. Mae cwcis yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i wefannau bob tro byddwch chi’n ymweld â nhw. Maen nhw’n cael eu defnyddio i adnabod porwyr gwe, olrhain tueddiadau defnyddwyr a storio gwybodaeth ynglŷn â dewisiadau defnyddwyr. Gallwch chi gyfyngu/analluogi cwcis ar eich porwr. Sylwch, mae’n bosib na fydd rhai gwefannau’n gweithio’n iawn heb gwcis.

Sut i Analluogi Cwcis

I newid eich gosodiadau cwcis:

  • Internet Explorer: Ewch i ‘Tools’ ar y bar dewislen > Dewiswch ‘Internet Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > Analluogi / cyfyngu ar gwcis
  • Firefox: Ewch i ‘Tools’ ar y bar dewislen > Dewiswch ‘Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > Analluogi / cyfyngu ar gwcis
  • Opera: Ewch i ‘Tools’ ar y bar dewislen > Dewiswch ‘Preferences’ > Dewiswch ‘Privacy/Advanced’ > Analluogi / cyfyngu ar gwcis

*Nodwch y gallai’r gosodiadau uchod newid, yn ddibynnol ar ba fersiwn o’r porwr rydych yn ei ddefnyddio.

Pam Rydyn Ni’n Casglu Ystadegau Defnyddwyr

Drwy ddeall ymddygiadau a dewisiadau defnyddwyr, rydyn ni’n gallu gwella’r cynnwys ar ein gwefan i fodloni disgwyliadau a diwallu anghenion defnyddwyr.

Gwefannau allanol

Dydy’r datganiad preifatrwydd hwn ddim yn berthnasol i ddolenni allanol; wrth gasglu gwybodaeth, mae gwefannau o’r fath yn ddarostyngedig i bolisïau preifatrwydd perthnasol. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau allanol a byddwch chi’n defnyddio gwefannau o’r fath ar eich disgresiwn eich hun.