Meddwl am Fyw ym Mhowys?

Pwy all beio chi, mae gennym ni bopeth!

Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n disgwyl gwneud rhyw fath o aberthau ar gyfer ein gyrfaoedd, ond a ddylen ni orfod? Fel gweithiwr meddygol proffesiynol, rydych chi’n gweithio am fywyd gwell – i chi, eich teulu a’ch cleifion. Ni ddylech orfod setlo am ddim llai na’r hyn rydych chi’n breuddwydio amdano.

Dychmygwch gyflawni eich dyheadau gyrfa a ffordd o fyw!

Dychmygwch gyflawni eich dyheadau gyrfa a ffordd o fyw!

Dechreuwch ymarfer ym Mhowys a bydd gwneud aberthau gyrfaol yn rhywbeth o’r gorffennol. Bydd eich bywyd a’ch gyrfa yn canu’n unsain wrth i chi a’ch teulu ffynnu ar lefel bersonol a phroffesiynol.

Dychmygwch gyflawni eich dyheadau gyrfa a ffordd o fyw. I gyd ar yr un pryd. I gyd mewn un man.

Efallai bod digwyddiadau enwog fel Gŵyl y Gelli, y Sioe Frenhinol a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn denu ymwelwyr i Bowys bob blwyddyn, ond gallu rhyfeddol y sir i wneud bywyd bob dydd gymaint yn well sy’n gwahodd gweithwyr iechyd proffesiynol a’u teuluoedd i greu dyfodol yma.

Cymysgwch y pethau bach fel cynnyrch organig lleol gyda’r pethau mawr fel tai fforddiadwy a Phowys yw’r hyn a gewch!