Nyrs Eiddilwch Gofal Sylfaenol a Gofal yn y Gymuned

Oes gennych chi ddiddordeb ymuno ag un o'r timau ymarfer ym Mhowys?

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddatblygu Gwasanaeth Nyrsio Eiddilwch ar gyfer cleifion sy’n byw yng Ngogledd Powys.

Llawn amser ⎸37.5 awr ⎸ Y Drenewydd

Crynodeb o’r swydd

Bydd y rôl yn cydlynu ac yn darparu cymorth ychwanegol hanfodol i rai o’n cleifion mwyaf eiddil, gan gefnogi datblygiad gwasanaethau eiddilwch arbenigol yn y gymuned. Mae’r rôl yn gofyn am sgiliau asesu clinigol trylwyr a dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o lunio cynlluniau gofal cynhwysfawr wedi’u personoli sy’n anelu at gadw cleifion gartref am fwy o amser, lleihau derbyniadau acíwt ac atal derbyniadau i’r ysbyty.

Bydd deiliad y swydd yn glinigwr ymreolaethol a fydd yn defnyddio ei brofiad a’i arbenigedd o weithio gyda chleifion hŷn bregus mewn lleoliad cymunedol, i gydlynu’r ddarpariaeth o ofal i’n cleifion eiddil.

Fel aelod allweddol o’r tîm Eiddilwch, bydd gennych sgiliau clinigol a chyfathrebu y gellir eu profi, byddwch yn hyderus wrth weithio ar eich pen eich hun, a meddu ar brofiad o ddarparu asesiad clinigol cyfannol a chynhwysfawr o’ch cleifion. Bydd eich rôl yn hanfodol wrth gyfleu anghenion a dymuniadau’r claf i’r rhai sy’n ymwneud â’u gofal.

Gyda hon yn rôl newydd, byddwch yn gweithio’n agos gydag uwch nyrs Band 8a, gan gefnogi datblygiad y gwasanaethau dan arweiniad Nyrs Eiddilwch yng Ngogledd Powys.

Ffurflen Gofynion Swyddogaethol.pdf

Polisi Gweithio Hyblyg.pdf

Dyddiad Cau – 6/02/25

Gallwch weld neu lawrlwytho swydd ddisgrifiad llawn trwy ddilyn y ddolen isod neu gallwch wneud cais yn y ddolen hon ↓

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn.

Pennaeth Proffesiynol Nyrsio
Linzi Shone

Nyrs Eiddilwch Gofal Sylfaenol a Gofal yn y Gymuned ⎸Llawn amser