Byw a Gweithio ym Mhowys

Dewch o hyd i beth sydd gan Bowys i’w chynnig a chyflawni eich dyheadau gyrfa a ffordd o fyw!

Ymunwch â'r Timau Ymarfer sy'n byw ym Mhowys

a chyflawni eich dyheadau gyrfa a ffordd o fyw

Pa bynnag gam o’ch bywyd rydych chi ar, gall gweithio yn y sector gofal iechyd fod yn heriol iawn; felly byddwch chi’n sicr o werthfawrogi eich amser rhydd.

Dyna un o’r rhesymau pam fod cymaint o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dewis Powys fel lle i fyw ac i weithio – mae’n ticio’r blychau i gyd am ansawdd bywyd bendigedig ochr yn ochr â llwybrau gyrfaol unigryw, gan eich galluogi i gyflawni dyheadau gwaith a bywyd.

Darganfod Powys

Beicio Mynydd Powys

Beicio Mynydd Barod i gychwyn antur ar ddwy olwyn ym Mhowys? Yn ymestyn o fynyddoedd eiriog Eryri, i gopaon garw’r Bannau Brycheiniog, Powys yw Cymru

Mwy o Wybodaeth...
Darganfod Powys

Awyr Dywyll Powys

Awyr Dywyll Powys Darganfod byw ym Mhowys, trysor cudd yng nghanol Cymru! Mae Eryri a’r Bannau Brycheiniog wedi ennill statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, ac

Mwy o Wybodaeth...

Ymunwch â'r Timau Ymarfer sy'n Gweithio ym Mhowys

a chyflawni eich dyheadau gyrfa a ffordd o fyw

Os ydych chi eisiau gweithio rhywle sydd wirioneddol yn cofleidio’r syniad o foderneiddio’r gweithlu Gofal Sylfaenol, edrychwch ddim pellach na Phowys.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnig llawer o gyfleoedd unigryw sy’n parhau i wthio’r ffiniau o fewn gofal iechyd gwledig. Rydym yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer datblygu eich gyrfa ar bob lefel. O Dderbynyddion, Nyrsys Practis, Ôl-raddedigion sy’n dymuno hyfforddi fel Cymdeithion Meddygol i Feddygon Teulu profiadol – Os ydych yn chwilio am her newydd mewn Gofal Sylfaenol, rydym yn hyderus y bydd gan Bowys swydd sydd at eich dant chi.

Dyma Beth Sydd Gan Eraill I Ddweud

Dyma feddyliau rhai o'n cydweithwyr am fyw a gweithio ym Mhowys

"Symudais i Bowys am y cyfle a'r her i dyfu'r gymuned o Gymdeithion Meddygol mewn ardal wledig.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi bod yn hyrwyddo'r proffesiwn ers blynyddoedd lawer ac wedi cyflogi rhai o'r Cymdeithion Meddygol cyntaf yng Nghymru. Hwn oedd y lle perffaith i ddatblygu fy ngyrfa, parhau i gyfleu fy angerdd dros ehangu'r rôl ac i mi brofi'r rhwystrau unigryw o ofal gwledig. Ac wrth gwrs i redeg yn y mynyddoedd."

Alexandra Woolley Rheolwr Datblygu Cymdeithion Meddygol ym Mhowys

Dyma Beth Sydd Gan Eraill I Ddweud

Dyma feddyliau rhai o'n cydweithwyr am fyw a gweithio ym Mhowys

"Symudais i Bowys flwyddyn yn ôl i chwilio am gyflawniad proffesiynol, i ddatblygu fy ngyrfa ac i ddod o hyd i ffordd wych o fyw. Rwyf bellach yn gweithio fel meddyg teulu rhan amser ac fel Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer y Bwrdd Iechyd. Rwyf wedi darganfod bod fy mywyd fel meddyg teulu yn gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw tyfu ein gweithlu ein hunain felly mae hyfforddiant yn flaenoriaeth, ac rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi i fod y gorau y gallaf fod.

Mae fy rôl o fewn y Bwrdd Iechyd yn golygu fy mod yn cwrdd â thimau ymarfer cyffredinol ac ysbytai eraill, sy'n werth chweil yn fy marn i ac mae'r teithiau'n hyfryd! Mae cymaint i'w fwynhau os ydych chi'n caru cefn gwlad a’r awyr agored."

Dr. Richard Stratton Meddyg Teulu Rhan-amser a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ym Mhowys

Dyma Beth Sydd Gan Eraill I Ddweud

Dyma feddyliau rhai o'n cydweithwyr am fyw a gweithio ym Mhowys

"Mae Powys yn sir brydferth, ges i fy magu yma ac yn edrych ymlaen at fagu fy mhlant yma. Mae digon o drefi hyfryd i'w harchwilio gyda siopau a chaffis unigryw, yn amlwg mae llwybrau cerdded anhygoel a llwyth o weithgareddau yn yr awyr agored."

Angharad Nyrs Practis ym Mhowys

Previous slide
Next slide